P-05-1130 Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech, Gohebiaeth – Deisebwyr at y Pwyllgor, 13.10.21

                                                                                                                              

13 Hydref 2021

Partheb y ddeiseb: Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech

Annwyl Aelodau o'r Pwyllgor Deisebau,

Fel y gwyddoch, trafodwyd y ddeiseb dan sylw yn nghyfarfod eich pwyllgor am y tro cyntaf ar 2 Mawrth eleni a chytunwyd yn y cyfarfod hwnnw ar y camau a ganlyn:

I ysgrifennu atom ni, y deisebwyr, i nodi'r amser cyfyngedig iawn oedd yn weddill yn nhymor presennol y Senedd a throsglwyddo’r ddeiseb i'r pwyllgor a fyddai'n olynu ar gyfer ei thrafod yn y Chweched Senedd.

Deallaf bod cyfarfod cyntaf Pwyllgor Deisebau y Chweched Senedd yn cymryd lle ar y 1 o Dachwedd ac y bydd y ddeiseb dan sylw ar agenda y cyfarfod.

Dwi ar ddeall bod y rhan mwyaf o Safle Coleg Harlech, sy'n cynnwys yr adeiladau cofrestriedig, Wern Fawr a Theatr Ardudwy, wedi eu prynu gan ddatblygwr erbyn hyn ac er mae'r rheswm dros drefnu'r ddeiseb yn y lle cyntaf oedd i ddarbwyllo'r Senedd i ail-brynu'r Coleg unigryw yma er mwyn sicrhau y byddai'n cael ei adnewyddu a'i ddefnyddio fel safle addysgiadol ar gyfer y Cymry, dwi'n hynod o falch i ddeall bod y perchennog newydd wedi cychwyn ar y gwaith o drwsio a thacluso'r safle fel modd o'i rhwytro rhag dirywio mwy yn ystod y gaeaf sydd ar y gorwel.

Ond, mae'n orfodol i fi fynegi fy mod yn hynod o siomedig fod Llywodraeth Cymru ddim wedi camu i'r fei i achub trysorau o adeiladau mor eiconic ynghyd a Choleg mor unigryw ac er bod yna waith chynnal a chadw yn cymryd lle ar y safle, dwi'n pryderu'n fawr am ddyfodol y safle gan fy mod ar ddeall bod cynllun ar y gweill i addasu Wern Fawr i fod yn fflatiau gwyliau moethus.

Fflatiau gwyliau moethus yw'r peth diwethaf mae Harlech ei angen a dwi'n gobeithio'n fawr na fydd arian cyhoeddus yn cael ei roi mewn grantiau i ddatblygu menter o'r fath mewn ardal sy'n crefu am adfywiad economaidd ac mewn adeiladau Coleg a ddylai fod yn cael eu defnyddio ar gyfer addysgu pob math o sgiliau, hên a newydd,ar gyfer Cymry sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig ac sydd ddim wedi cael cyfleoedd gwaith sy'n talu cyflogau teilwng am ddegawdau.

Felly, er bod Coleg Harlech wedi ei brynu erbyn hyn, mae'r ail rhan o'r alwad ar y ddeiseb yn gymwys o hyd, fel a ganlyn:

"Bydd y byd ar ôl Covid-19 yn hollol wahanol i'r byd cyn Covid-19 yr oeddem yn gyfarwydd ag ef. Bydd economïau’n cael eu dinistrio - rydym eisoes yn gweld hynny’n dechrau digwydd, a bydd angen ailadeiladu cenhedloedd ac economïau. Mae synnwyr cyffredin yn dweud y bydd angen yr holl offer posibl, a hynny’n offer dynol ac offer adeiladu, er mwyn ailadeiladu cenhedloedd a'u heconomïau. Os caiff Coleg Harlech ei adnewyddu i'w hen ogoniant, bydd ganddo’r holl ofynion angenrheidiol ar gyfer hyfforddi ein pobl ddi-waith i ddatblygu’r holl sgiliau ymarferol, technegol a phroffesiynol sydd eu hangen i ailadeiladu strwythur ac economi ein cenedl er budd a ffyniant cyfartal pawb". 

Erfynnaf ar y Pwyllgor Deisebau i ystyried beth dylai fod yn flaenoriaeth ar gyfer defnydd o'r Coleg, ei adfer yn addas ar gyfer dyfodol economi Harlech a Chymru yn ei gyfanrwydd neu ei ddatblygu fel fflatiau gwyliau moethus? Cofiwch, mae arian o'r pwrs cyhoeddus fydd y rhan mwyaf o'r arian fydd yn cael ei ddefnyddio, beth bynnag fydd y dewis.

Yn gywir

Siân Ifan

Ar ran Grŵp Gweithredu i Achub Coleg Harlech a Theatr Ardudwy